Eich Ymweliad
Canllaw hanfodol am eich ymweliad â'r sba
- Byddwch yn cael locer personol i gadw eich eiddo – er eich risg eich hun; nid yw’r rheolwyr yn derbyn cyfrifoldeb am eiddo sydd wedi cael ei ddwyn, ei golli na’i ddifrodi.
- Dim ond dillad nofio a ganiateir yn y sba a rhaid eu gwisgo ym mhob man.
- Mae gŵn a lliain yn cael eu darparu.
- Ni chaniateir esgidiau tu allan yn y sba.
- Ni chaniateir bwyd yn y sba. Mae’n rhaid i ddiodydd fod yn y cwpanau plastig a ddarperir.
- Parchwch hawl eich cyd-gleientiaid i heddwch a phreifatrwydd tra rydych chi yn y sba, a chadwch yn dawel.
- Ni chaniateir ffonau symudol yn y sba na’r ardaloedd ymlacio.
- Yn dilyn canllawiau’r diwydiant, ni chaniateir unrhyw un sy’n iau nag 16 oed yn y sba.
- Cofiwch gael cawod cyn dod mewn i’r sba.
- Argymhellir tynnu gemwaith cyn dod mewn i ardal y sba.
- Os ydych chi wedi trefnu triniaeth, bydd eich therapydd yn dod i’ch nôl chi.
Iechyd a Diogelwch: - Dylai pobl hŷn, merched beichiog, pobl sy’n cymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn, pobl sy’n dioddef o glefyd y galon, clefyd siwgr a phwysedd gwaed uchel neu isel siarad â doctor cyn defnyddio’r sba.
- Ni chaniateir i bobl dan ddylanwad alcohol na chyffuriau ddefnyddio’r sba.
- Defnyddiwch y canllaw wrth fynd i mewn a gadael pwll y sba.
- Ni ddylai cleientiaid dreulio mwy nag 20 munud mewn unrhyw ardal o’r sba.
- Byddwch yn ofalus, gallai’r llawr fod yn llithrig – dim rhedeg na neidio.
- Peidiwch â dod ag unrhyw gynhyrchion (siampŵ, gel cawod, diblysgyddion, hufenau corff, ac ati) i’r ardal sba, gan na’u caniateir a gallant effeithio ar y system hidlo. Gellir defnyddio’r cynhyrchion hyn yn y cawodydd yn yr ardal newid ond nid yn y sba ei hun.
Yn Salon iâl, rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r Green Salon Collective. Mae’r Green Salon Collective yn grŵp o arbenigwyr diwydiant, trinwyr gwallt, ac ymgyrchwyr yr amgylchedd gyda’r nod o gynaliadwyedd y diwydiant trin gwallt. Eu nod yw casglu cymaint â 100% o’r holl wastraff salon ag sy’n bosib ac yna dod o hyd i ddefnyddiau newydd ar ei gyfer sy’n gwobrwyo’r salon, yr amgylchedd a’r gymuned ac rydyn ni’n ceisio helpu cymaint ag y gallwn ni. Gofynnwn hefyd am ffi eco hollol ddewisol o £1 ar gyfer pob gwasanaeth i gefnogi’r salon i fod yn fwy cynaliadwy.
I ble allwn ni fynd â chi rŵan?
Amseroedd Agor
Dydd Llun
10am – 6pm
Dydd Mawrth
10am – 6pm
Dydd Mercher
10am – 6pm
Dydd Iau
11am – 8pm
Dydd Gwener
9am – 5pm
Dydd Sadwrn
9am – 2pm
Dydd Sul
AR GAU
Amseroedd Agor
Dydd Llun
10am – 6pm
Dydd Mawrth
10am – 6pm
Dydd Mercher
10am – 6pm
Dydd Iau
11am – 8pm
Dydd Gwener
9am – 5pm
Dydd Sadwrn
9am – 2pm
Dydd Sul
AR GAU