Cynigion

Cadwch lygad ar y dudalen hon am gynigion arbennig sydd ar y gweill.

Croeso i Sba Iâl sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Iechyd a Llesiant yng Ngholeg Cambria, lle mae gweithwyr proffesiynol medrus iawn yn goruchwylio ac yn helpu i ddatblygu sgiliau ein myfyrwyr. Mae ein therapyddion proffesiynol ar gael hefyd i ddarparu triniaethau, gan gynnig blynyddoedd o brofiad am brisiau fforddiadwy. Rydyn ni’n cynnig profiad o safon uchel gydag ystod eang o driniaethau, gan sicrhau gwerth ardderchog am arian i’n cleientiaid.

Darllenwch yn ofalus cyn trefnu apwyntiad.

Paratoi ar gyfer eich apwyntiad:

  • Cofiwch mai sefydliad hyfforddi ydy sba iâl ac er ein bod ni’n ymdrechu i gynnal safonau diwydiant o ansawdd uchel, ni ellir gwarantu pob triniaeth a gwasanaeth. Gall triniaethau a gwasanaethau fod yn wahanol o ran hyd ac ansawdd yn dibynnu ar y myfyriwr sy’n eu darparu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i aelod o staff os nad ydych chi’n hapus gyda’ch triniaeth o fewn 3 diwrnod. Ni ellir sicrhau amseru masnachol bob amser.
  • A wnewch chi gyrraedd o leiaf 10 munud cyn eich apwyntiad i gael ymgynghoriad. Os ydych chi’n fwy na 10 munud yn hwyr, yn anffodus mae gennym ni’r hawl i ganslo’ch apwyntiad yn llwyr neu, lle bo’n bosib, gallwn gynnig triniaeth fyrrach.
  • Os ydych chi wedi cael pigiadau gwrth-grychau neu ‘fillers’ croenol, bydd angen i chi aros o leiaf pythefnos cyn cael triniaeth drydanol ar yr wyneb neu unrhyw driniaethau uwch i’r wyneb.
  • Rydyn ni angen o leiaf 4-6 wythnos o dyfiant gwallt er mwyn cael y profiad cwyro gorau / o leiaf  ¼ modfedd.
  • Ar gyfer yr holl wasanaethau therapi harddwch sy’n cynnwys tint neu lud, mae angen prawf croen 24-48 awr cyn BOB apwyntiad.
  • Ni allwn ni gynnal triniaethau harddwch i unrhyw un o dan 16 oed, hyd yn oed os ydynt yn cael caniatâd rhieni.
  • Wrth wneud apwyntiad, sylwch y bydd angen blaendal o 50% ar gyfer pob apwyntiad sydd dros £50.
  • Ni all Sba Iâl warantu myfyriwr penodol i gynnal triniaethau.
  • Mae’r prisiau’n gywir ar amser argraffu ac fe allen nhw newid unrhyw bryd.
  • Ni fydd Sba Iâl yn gyfrifol am unrhyw golled neu niwed i ddillad nac eiddo personol.
  • Ar ôl cyrraedd bydd angen i chi gwblhau holiadur meddygol. Efallai y bydd rhai cyflyrau meddygol yn eich atal chi rhag rhai o’r triniaethau neu’r cyfleusterau. Rhowch wybod am unrhyw gyflyrau iechyd / alergeddau wrth drefnu apwyntiad. Os ydych chi’n feichiog, byddwn ni’n hapus i’ch cynghori chi ynghylch addasrwydd triniaethau.
  • Rydyn ni’n gofyn yn barchus am 48 awr o rybudd os oes angen i chi ganslo’ch apwyntiad, fel y gallwn ni ei gynnig i gleient arall. Os na fyddwch chi’n mynd i’ch apwyntiad heb ganslo, bydd angen blaendal o 50% i sicrhau eich apwyntiad nesaf. Os na fyddwch chi’n mynd i apwyntiadau pellach, bydd angen talu’r swm llawn er mwyn  trefnu unrhyw apwyntiadau yn y dyfodol.
  • O bryd i’w gilydd rydyn ni’n cynnig gostyngiadau i’n cleientiaid. Gall y rhain newid, cael eu canslo neu eu tynnu’n ôl ar unrhyw adeg ac ni ellir eu defnyddio ar y cyd ag unrhyw gynnig neu bris arbennig arall.
  • Nid oes modd ad-dalu’r blaendaliadau ac nid ydynt yn drosglwyddadwy oni bai bod eich gwasanaeth yn cael ei ganslo gan Sba Iâl neu os byddwch chi’n canslo yn hwyrach na 48 awr cyn eich apwyntiad.
  • Mae talebau’n ddilys am 12 mis o’r dyddiad cyhoeddi.

Yn Salon iâl rydyn ni’n hynod falch o fod yn rhan o’r Green Salon Collective. Mae’r Green Salon Collective yn gychwyn ar arbenigwyr y diwydiant, trinwyr gwallt ac ymgyrchwyr eco ar genhadaeth tuag at gynaliadwyedd trin gwallt. Eu nod ydy casglu cymaint â phosibl at 100% o holl wastraff y salon ac yna dod o hyd i ddefnyddiau newydd ar ei gyfer sy’n gwobrwyo’r salon, yr amgylchedd a’r gymuned ac rydyn ni am helpu cymaint ag y gallwn ni. Rydyn ni hefyd yn gofyn am ffi eco gwbl ddewisol o £1 ym mhob gwasanaeth i gefnogi’r salon i fod yn fwy cynaliadwy.


I ble allwn ni fynd â chi rŵan?

Methu Dod o Hyd i'r Hyn Rydych Chi'n Chwilio Amdano?

Dyma Sut y Gallwch Chi Gysylltu

Ffoniwch

01978 267614

Dewch o hyd i ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Amseroedd Agor

Dydd Llun
10am – 6pm

Dydd Mawrth
10am – 6pm

Dydd Mercher
10am – 6pm

Dydd Iau
11am – 8pm

Dydd Gwener
9am – 5pm

Dydd Sadwrn
9am – 2pm

Dydd Sul
AR GAU

Amseroedd Agor

Dydd Llun
10am – 6pm

Dydd Mawrth
10am – 6pm

Dydd Mercher
10am – 6pm

Dydd Iau
11am – 8pm

Dydd Gwener
9am – 5pm

Dydd Sadwrn
9am – 2pm

Dydd Sul
AR GAU