Gwybodaeth am sba iâl Wrecsam

Profwch wasanaeth a chreadigrwydd eithriadol yn iâl

Croeso i Sba Iâl Wrecsam sydd wedi ei lleoli yng Nghanolfan Iechyd a Llesiant yng Ngholeg Cambrig, lle mae gweithwyr proffesiynol medrus yn goruchwylio ac yn helpu i ddatblygu sgiliau ein myfyrwyr. Mae ein therapyddion proffesiynol hefyd ar gael i roi triniaethau, gan ddod â blynyddoedd o brofiad am brisiau fforddiadwy. Rydyn ni’n cynnig profiad o ansawdd uchel gydag ystod eang o driniaethau, gan sicrhau gwerth ardderchog i’n holl gleientiaid.

Yn Sba Iâl Wrecsam, rydyn ni’n credu bod llesiant yn hanfodol, ddim yn beth moethus yn unig. Mae ein hathroniaeth wrth wraidd y syniad bod harddwch ac iechyd gwirioneddol yn dod o’r tu mewn, ac mae triniaethau wedi’u dylunio i faethu’r corff a’r enaid. 

 

Wedi’i ddylunio gyda heddwch mewn cof, mae Sba Iâl yn lle i fwrw’ch blinder a dianc o’r byd go iawn. Mae ein hamgylchedd tawel yn llawn arogleuon lleddfol a synau cysurlon, yn creu’r awyrgylch perffaith i ymlacio. Mae pob manylyn wedi’i guradu’n ofalus i wella’ch profiad sba.

Er mwyn sicrhau bod ein holl westeion yn cael profiad mor ymlaciol a phleserus â phosib,  rydyn ni’n gofyn yn garedig i chi gadw at y canllawiau ymddygiad sba canlynol.

Darllenwch yn drylwyr cyn archebu.

Wrth baratoi ar gyfer eich apwyntiad:

  • A wnewch chi barchu fod sba iâl yn gyfleuster hyfforddi ac er ein bod yn ceisio cynnal safonau ansawdd uchel y diwydiant, ni ellir gwarantu pob triniaeth a gwasanaeth. Gallai triniaethau a gwasanaethau fod yn wahanol o ran hyd ac ansawdd yn dibynnu ar y myfyriwr sy’n eu rhoi, felly rhowch wybod i aelod o staff o fewn tridiau os nad ydych chi’n hapus. Ni ellir sicrhau amseriad masnachol bob amser.
    Cyrhaeddwch o leiaf 10 munud cyn eich apwyntiad i gael ymgynghoriad. Os fyddwch chi fwy na 10 munud yn hwyr, mae’n ddrwg gennym roi gwybod i chi ein bod yn cadw’r hawl i ganslo eich apwyntiad yn llwyr neu, lle bo’n bosibl, efallai byddwn yn cynnig triniaeth fyrrach.
    Os ydych chi wedi cael chwistrelliadau gwrth-grychion a/neu lenwyr y croen, bydd angen i chi aros o leiaf pythefnos cyn cael triniaeth drydanol ar yr wyneb neu unrhyw driniaeth uwch ar yr wyneb.
    I gael y profiad cwyro gorau, mae gofyn am dyfu’r blew am o leiaf 4-6 wythnos/o leiaf ¼ modfedd.
    Ar gyfer pob gwasanaeth therapi harddwch sy’n cynnwys arlliw neu lud, mae gofyn am brawf 24-48 awr cyn POB apwyntiad.
    Ni allwn roi unrhyw driniaethau harddwch ar unrhyw un sy’n iau nag 16 oed, hyd yn oed gyda chaniatâd rhiant.
    Wrth drefnu apwyntiad, sylwer bod gofyn am flaendal o 50% ar gyfer pob archeb sy’n fwy na £50.
    Ni all Sba Iâl warantu y bydd myfyriwr penodol yn rhoi triniaethau.
    Mae prisiau’n gywir adeg eu hargraffu a gallan nhw newid unrhyw bryd.
    Ni ellir dal Sba Iâl yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i ddillad neu eiddo personol.
    Ar ôl cyrraedd, bydd gofyn i chi gwblhau holiadur meddygol. Efallai bydd rhai cyflyrau meddygol yn golygu na allwch chi gael rhai triniaethau neu ddefnyddio rhai cyfleusterau. Rhowch wybod am unrhyw gyflyrau iechyd / alergeddau wrth drefnu apwyntiad. Os ydych chi’n feichiog, byddwn ni’n hapus i roi cyngor i chi am ba driniaethau sy’n addas i chi.
    Rydyn ni’n gofyn yn barchus am 48 awr o rybudd os oes angen i chi ganslo eich apwyntiad, fel ein bod yn gallu ei gynnig i gleient arall. Os ydych chi’n methu eich apwyntiad heb ganslo, bydd gofyn am flaendal o 50% i gadw eich apwyntiad nesaf. Os ydych chi’n methu â dod i apwyntiadau wedi hynny, bydd angen i chi dalu’r swm cyfan yn llawn er mwyn cadw unrhyw archebion yn y dyfodol.
    O bryd i’w gilydd, rydyn ni’n cynnig gostyngiadau i’n cleientiaid. Gallai’r rhain gael eu newid, eu canslo neu eu tynnu’n ôl ar unrhyw adeg ac ni ellir eu defnyddio gydag unrhyw gynnig neu bris arbennig arall.
    Ni ellir ad-dalu unrhyw flaendaliad ac ni ellir eu trosglwyddo oni bai bod Sba Iâl yn canslo’ch gwasanaeth neu os byddwch yn canslo gyda mwy na 48 awr o rybudd cyn eich apwyntiad.
    Mae talebau yn ddilys am 12 mis o ddyddiad eu dosbarthu.

Gwybodaeth am barcio

Yn anffodus nid ydyn ni’n gallu cynnig parcio ar y safle, mae nifer cyfyngedig o leoedd bathodyn glas ar gael. Mae’r meysydd parcio agosaf o fewn pellter cerdded byr:

Maes Parcio’r Llyfrgell – LL11 1WS

0 – 2 awr – £1.50

0 – 3 awr – £3

Maes Parcio Waterworld – LL13 8BG

0 – 2 awr – £1.50

Trwy’r dydd (tan ganol nos) – £3

Yn Salon iâl, rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r Green Salon Collective. Mae’r Green Salon Collective yn grŵp o arbenigwyr diwydiant, trinwyr gwallt, ac ymgyrchwyr yr amgylchedd gyda’r nod o gynaliadwyedd y diwydiant trin gwallt. Eu nod yw casglu cymaint â 100% o’r holl wastraff salon ag sy’n bosib ac yna dod o hyd i ddefnyddiau newydd ar ei gyfer sy’n gwobrwyo’r salon, yr amgylchedd a’r gymuned ac rydyn ni’n ceisio helpu cymaint ag y gallwn ni. Gofynnwn hefyd am ffi eco hollol ddewisol o £1 ar gyfer pob gwasanaeth i gefnogi’r salon i fod yn fwy cynaliadwy.


I ble allwn ni fynd â chi rŵan?

Methu Dod o Hyd i'r Hyn Rydych Chi'n Chwilio Amdano?

Dyma Sut y Gallwch Chi Gysylltu

Ffoniwch

01978 267614

Dewch o hyd i ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Amseroedd Agor

Dydd Llun
10am – 6pm

Dydd Mawrth
10am – 6pm

Dydd Mercher
10am – 6pm

Dydd Iau
11am – 8pm

Dydd Gwener
9am – 5pm

Dydd Sadwrn
9am – 2pm

Dydd Sul
AR GAU

Amseroedd Agor

Dydd Llun
10am – 6pm

Dydd Mawrth
10am – 6pm

Dydd Mercher
10am – 6pm

Dydd Iau
11am – 8pm

Dydd Gwener
9am – 5pm

Dydd Sadwrn
9am – 2pm

Dydd Sul
AR GAU