Eich Ymweliad

Canllaw hanfodol am eich ymweliad â'r sba

  • Byddwch yn cael locer personol i gadw eich eiddo – er eich risg eich hun; nid yw’r rheolwyr yn derbyn cyfrifoldeb am eiddo sydd wedi cael ei ddwyn, ei golli na’i ddifrodi.
  • Dim ond dillad nofio a ganiateir yn y sba a rhaid eu gwisgo ym mhob man.
  • Mae gŵn a lliain yn cael eu darparu.
  • Ni chaniateir esgidiau tu allan yn y sba.
  • Ni chaniateir bwyd yn y sba. Mae’n rhaid i ddiodydd fod yn y cwpanau plastig a ddarperir.
  • Parchwch hawl eich cyd-gleientiaid i heddwch a phreifatrwydd tra rydych chi yn y sba, a chadwch yn dawel.
  • Ni chaniateir ffonau symudol yn y sba na’r ardaloedd ymlacio.
  • Yn dilyn canllawiau’r diwydiant, ni chaniateir unrhyw un sy’n iau nag 16 oed yn y sba.
  • Cofiwch gael cawod cyn dod mewn i’r sba.
  • Argymhellir tynnu gemwaith cyn dod mewn i ardal y sba.
  • Os ydych chi wedi trefnu triniaeth, bydd eich therapydd yn dod i’ch nôl chi.
    Iechyd a Diogelwch:
  • Dylai pobl hŷn, merched beichiog, pobl sy’n cymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn, pobl sy’n dioddef o glefyd y galon, clefyd siwgr a phwysedd gwaed uchel neu isel siarad â doctor cyn defnyddio’r sba.
  • Ni chaniateir i bobl dan ddylanwad alcohol na chyffuriau ddefnyddio’r sba.
  • Defnyddiwch y canllaw wrth fynd i mewn a gadael pwll y sba.
  • Ni ddylai cleientiaid dreulio mwy nag 20 munud mewn unrhyw ardal o’r sba.
  • Byddwch yn ofalus, gallai’r llawr fod yn llithrig – dim rhedeg na neidio.
  • Peidiwch â dod ag unrhyw gynhyrchion (siampŵ, gel cawod, diblysgyddion, hufenau corff, ac ati) i’r ardal sba, gan na’u caniateir a gallant effeithio ar y system hidlo. Gellir defnyddio’r cynhyrchion hyn yn y cawodydd yn yr ardal newid ond nid yn y sba ei hun.

Yn Salon iâl, rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r Green Salon Collective. Mae’r Green Salon Collective yn grŵp o arbenigwyr diwydiant, trinwyr gwallt, ac ymgyrchwyr yr amgylchedd gyda’r nod o gynaliadwyedd y diwydiant trin gwallt. Eu nod yw casglu cymaint â 100% o’r holl wastraff salon ag sy’n bosib ac yna dod o hyd i ddefnyddiau newydd ar ei gyfer sy’n gwobrwyo’r salon, yr amgylchedd a’r gymuned ac rydyn ni’n ceisio helpu cymaint ag y gallwn ni. Gofynnwn hefyd am ffi eco hollol ddewisol o £1 ar gyfer pob gwasanaeth i gefnogi’r salon i fod yn fwy cynaliadwy.


I ble allwn ni fynd â chi rŵan?

Methu Dod o Hyd i'r Hyn Rydych Chi'n Chwilio Amdano?

Dyma Sut y Gallwch Chi Gysylltu

Ffoniwch

01978 267614

Dewch o hyd i ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Amseroedd Agor

Dydd Llun
10am – 6pm

Dydd Mawrth
10am – 6pm

Dydd Mercher
10am – 6pm

Dydd Iau
11am – 8pm

Dydd Gwener
9am – 5pm

Dydd Sadwrn
9am – 2pm

Dydd Sul
AR GAU

Amseroedd Agor

Dydd Llun
10am – 6pm

Dydd Mawrth
10am – 6pm

Dydd Mercher
10am – 6pm

Dydd Iau
11am – 8pm

Dydd Gwener
9am – 5pm

Dydd Sadwrn
9am – 2pm

Dydd Sul
AR GAU