Triniaethau i'r Corff

O therapïau amgen i driniaethau moethus lapio’r corff a chwistrellu lliw haul, mae ein triniaethau wedi’u dylunio i godi’ch ysbryd, eich bywiogi, a’ch pampro chi o'ch cirun i;ch sawdl.

Dechreuwch eich taith i lesiant gyda’n prisiau graddedigion, lle mae darpar therapyddion yn gweithio tuag at ardystiad Lefel 3 yn cynnig eu hymrwymiad a’u harbenigedd i’ch gofal. Dewch i brofiad y cyffyrddiad gofalgar a’r sgiliau sy’n dod i’r amlwg wrth iddyn nhw eich arwain chi at lesiant ac ymlaciad gorau posibl.

Er mwyn cael hyd yn oed rhagor o foethusrwydd a sgiliau, dewiswch ein prisiau Arbenigwyr, bydd eich triniaethau’n cael eu gwneud gan therapyddion cwbl gymwys. Mae ganddyn nhw flynyddoedd o brofiad ac wedi meistroli eu crefft, gan ddarparu triniaethau’r corff sy’n mynd uwchlaw’r arferol, gan wneud i chi deimlo wedi’ch ieuengeiddio, yn ffres ac yn wên o glust i glust.

Amseroedd Agor

Dydd Llun
10am – 6pm

Dydd Mawrth
10am – 6pm

Dydd Mercher
10am – 6pm

Dydd Iau
11am – 8pm

Dydd Gwener
9am – 5pm

Dydd Sadwrn
9am – 2pm

Dydd Sul
AR GAU

Amseroedd Agor

Dydd Llun
10am – 6pm

Dydd Mawrth
10am – 6pm

Dydd Mercher
10am – 6pm

Dydd Iau
11am – 8pm

Dydd Gwener
9am – 5pm

Dydd Sadwrn
9am – 2pm

Dydd Sul
AR GAU

RHESTR BRISIAU

Mae ein prisiau yn seiliedig ar brofiad a lefel y therapydd. Mae therapydd dan hyfforddiant yn gweithio tuag at eu cymhwyster Lefel 2. Mae ein Therapydd Graddedig wedi cymhwyso ar Lefel 2 ac yn gweithio tuag at eu cymhwyster uwch Lefel 3.

Gwasanaeth

Therapydd dan Hyfforddiant

Therapydd Graddedig

Therapydd Proffesiynol

THERAPÏAU ERAILL

Tylino'r Pen yn y Dull Indiaidd

Mae tylino'r pen yn y dull Indiaidd yn driniaeth therapiwtig sy'n canolbwyntio ar dylino'r pen, gwddf, a'r ysgwyddau.

£15.00

£25.00

Adweitheg

Techneg therapiwtig sy'n cynnwys rhoi pwysau ar bwyntiau penodol ar y traed, dwylo, neu glustiau. Mae'r pwyntiau yma yn cyfateb i wahanol organau a systemau'r corff gan hyrwyddo ymlaciad, gwella cylchrediad, a chynyddu llesiant yn gyffredinol.

£20.00

£35.00

Tylino Aromatherapi

Triniaeth gyfannol iachaol sy'n defnyddio olewau hanfodol wedi'u tynnu o blanhigion i hyrwyddo llesiant corfforol ac emosiynol.

£25.00

£45.00

TRINIAETHAU'R CORFF ELEMIS

Triniaeth 'Elemis Intensely Cleansing Salt Scrub'

Triniaeth lanhaol ddwys halen sgwrio ar gyfer y corff llawn sy'n annog adfywio'r celloedd er mwyn cael y croen mwyaf esmwyth, llyfn ac iach.

£15.00

£25.00

Triniaeth 'Elemis Targeted Toning Tighter Body Wrap'

Cyfuniad pwerus o dylino a masg clai sy’n cael gwared ar docsinau ar y corff er mwyn tynhau a gwella cylchrediad.

£35.00

Triniaeth 'Elemis Hot Mineral Body Boost'

Triniaeth bwerus i ysgogi pob cell yn y corff, gan helpu i leddfu poen yn y cyhyrau a chael gwared ar docsinau.

£45.00

TRINIAETHAU UWCH AR GYFER Y CORFF

Electrotherapi Uwch y Corff

Dewch i gymryd mantais o’n triniaethau trydanol y corff, gallwn ni drin unrhyw beth o olion ehangu ar unrhyw ran o’r corff, neu broblemau acne ar y cefn, gwddf ac ysgwyddau gan ddefnyddio technoleg uwch.

£15.00

Triniaeth Meicrosgraffinio'r Corff (Yn ôl pob rhan o'r corff)

Triniaeth diblisgo ysgafn ar y corff y gael gwared ar gelloedd y croen sydd wedi marw ac annog celloedd newydd i dyfu.

£15.00

Chwistrelliad Lliw Haul

Dewch i drin eich croen i gael lliw haul naturiol a golwg llyfn lliw haul Kissed by Mii’s sy’n hydradu’r croen, wedi’i gyfoethogi gan fwynhau’r môr a DHA organig.

£15.00

£15.00

Triniaethau Tylino

Tylino'r Corff Cyfan (60 munud)

Triniaeth therapiwtig 60 munud sy’n cynnwys tylino’r holl brif grwpiau o gyhyrau i leddfu tensiwn, gwella cylchrediad ac annog ymlaciad.

£25.00

£40.00

Tylino'r Corff Cyfan gydag olew aroglau (60 munud)

Triniaeth tylino'r corff llawn gydag olewau aroma wedi'u cyfuno'n barod sy'n defnyddio olewau hanfodol peraroglus i gynyddu ymlaciad a lleddfu tensiwn.

£28.00

£42.00

Tylino'r Cefn (30 munud)

Triniaeth tylino’r cefn am 30 munud sy’n canolbwyntio ar leddfu tensiwn a straen yng nghyhyrau’r cefn.

£15.00

£25.00

Tylino'r Corff â Cherrig Poeth (30 munud)

Mae tylino'r corff â cherrig poeth yn driniaeth sy'n cynnwys rhoi cerrig llyfn, wedi'u twymo ar bwyntiau allweddol ar y corff a'u defnyddio nhw i dylino cyhyrau. Mae'r gwres yn helpu i ymlacio'r cyhyrau, gwella cylchrediad a lleddfu straen.

£16.00

£28.00

Tylino'r Corff â Cherrig Poeth (60 munud)

Mae tylino'r corff â cherrig poeth yn driniaeth sy'n cynnwys rhoi cerrig llyfn, wedi'u twymo ar bwyntiau allweddol ar y corff a'u defnyddio nhw i dylino cyhyrau. Mae'r gwres yn helpu i ymlacio'r cyhyrau, gwella cylchrediad a lleddfu straen.

£25.00

£45.00

Methu Dod o Hyd i'r Hyn Rydych Chi'n Chwilio Amdano?

Dyma Sut y Gallwch Chi Gysylltu

Ffoniwch

01978 267614

Dewch o hyd i ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol

I ble allwn ni fynd â chi rŵan?