Triniaethau Llesiant a Holistaidd

Dewch i ddianc o’r byd go iawn a bwrw’ch blinder, lle mae llesiant holistaidd yn ganolbwynt

Mae ein hystod o driniaethau wedi’u dylunio i feithrin eich bodolaeth gyfan, gan hyrwyddo harmoni, cydbwysedd, a magu nerth newydd.

Dewch i brofi pŵer trawsnewidiol therapïau cyfannol sy’n mynd i’r afael â’ch llesiant corfforol, emosiynol, ac ysbrydol. O dylino lleddfol i dechnegau cydbwyso egni, mae ein triniaethau wedi’u teilwra i fodloni’ch anghenion unigryw a chefnogi’ch taith tuag at lesiant cyfannol.

Yma fe gewch chi elwa o brisiau hyfforddai, lle mae therapyddion yn gweithio tuag at ardystiad yn cynnig eu hymrwymiad a’u hangerdd i’ch llesiant chi. Mae prisiau graddedigion yn cynnig arbenigedd lefel uwch, ac mae prisiau arbenigwyr yn sicrhau’r pinacl o sgil a meistrolaeth.

Amseroedd Agor

Dydd Llun
10am – 6pm

Dydd Mawrth
10am – 6pm

Dydd Mercher
10am – 6pm

Dydd Iau
11am – 8pm

Dydd Gwener
9am – 5pm

Dydd Sadwrn
9am – 2pm

Dydd Sul
AR GAU

Amseroedd Agor

Dydd Llun
10am – 6pm

Dydd Mawrth
10am – 6pm

Dydd Mercher
10am – 6pm

Dydd Iau
11am – 8pm

Dydd Gwener
9am – 5pm

Dydd Sadwrn
9am – 2pm

Dydd Sul
AR GAU

Triniaethau'r Corff, Tylino a Therapïau Amgen

Mae ein prisiau yn seiliedig ar brofiad a lefel y therapydd. Mae therapydd dan hyfforddiant yn gweithio tuag at eu cymhwyster Lefel 2. Mae ein Therapydd Graddedig wedi cymhwyso ar Lefel 2 ac yn gweithio tuag at eu cymhwyster Lefel 3 uwch.

Gwasanaeth

Therapydd dan Hyfforddiant

Therapydd Graddedig

Therapydd Proffesiynol

Tylino

Tylino'r Corff Cyfan (60 munud)

Triniaeth therapiwtig 60 munud sy'n cynnwys tylino'r holl brif grwpiau cyhyrau i leddfu tensiwn, gwella cylchrediad , a hybu ymlacio

£25.00

£40.00

Tylino'r Corff Cyfan gydag Olew Aroglau (60 munud)

Triniaeth tylino'r corff cyfan gydag olewau aroma wedi'u cyfuno'n barod sy'n defnyddio olewau hanfodol peraroglus i gynyddu ymlaciad a lleddfu tensiwn.

£28.00

£42.00

Tylino'r Cefn (30 munud)

Triniaeth tylino'r cefn am 30 munud sy'n canolbwyntio ar leddfu tensiwn a straen yng nghyhyrau’r cefn.

£15.00

£25.00

Tylino'r Corff â Cherrig Poeth (30 munud)

Mae tylino'r corff â cherrig poeth yn driniaeth sy'n cynnwys rhoi cerrig llyfn, wedi'u twymo ar bwyntiau allweddol ar y corff a'u defnyddio nhw i dylino cyhyrau. Mae'r gwres yn helpu i ymlacio'r cyhyrau, gwella cylchrediad a lleddfu straen.

£16.00

£28.00

Tylino'r Corff â Cherrig Poeth (60 munud)

Mae tylino'r corff â cherrig poeth yn driniaeth sy'n cynnwys rhoi cerrig llyfn, wedi'u twymo ar bwyntiau allweddol ar y corff a'u defnyddio nhw i dylino cyhyrau. Mae'r gwres yn helpu i ymlacio'r cyhyrau, gwella cylchrediad a lleddfu straen.

£25.00

£45.00

THERAPÏAU AMGEN

Tylino'r Pen yn y Dull Indiaidd

Mae tylino'r pen yn y dull Indiaidd yn driniaeth therapiwtig sy'n canolbwyntio ar dylino'r pen, gwddf, a'r ysgwyddau.

£15.00

£25.00

Adweitheg

Techneg therapiwtig sy'n cynnwys rhoi pwysau ar bwyntiau penodol ar y traed, dwylo, neu glustiau. Mae'r pwyntiau yma yn cyfateb i wahanol organau a systemau'r corff gan hyrwyddo ymlaciad, gwella cylchrediad, a chynyddu llesiant yn gyffredinol.

£20.00

£35.00

Tylino Aromatherapi

Triniaeth gyfannol iachaol sy'n defnyddio olewau hanfodol wedi'u tynnu o blanhigion i hyrwyddo llesiant corfforol ac emosiynol.

£25.00

£45.00

TRINIAETHAU'R CORFF ELEMIS

Triniaeth 'Elemis Intensely Cleansing Salt Scrub'

Triniaeth lanhaol ddwys halen sgwrio ar gyfer y corff llawn sy'n annog adfywio'r celloedd er mwyn cael y croen mwyaf esmwyth, llyfn ac iach.

£15.00

£25.00

Triniaeth 'Elemis Targeted Toning Tighter Body Wrap'

Cyfuniad pwerus o dylino a masg clai sy’n cael gwared ar docsinau ar y corff er mwyn tynhau a gwella cylchrediad.

£35.00

Triniaeth 'Elemis Hot Mineral Body Boost'

Triniaeth bwerus i ysgogi pob cell yn y corff, gan helpu i leddfu poen yn y cyhyrau a chael gwared ar docsinau.

£45.00

TRINIAETHAU UWCH AR GYFER Y CORFF

Electrotherapi Uwch y Corff

Dewch i gymryd mantais o’n triniaethau trydanol y corff, gallwn ni drin unrhyw beth o olion ehangu ar unrhyw ran o’r corff, neu broblemau acne ar y cefn, gwddf ac ysgwyddau gan ddefnyddio technoleg uwch.

£15.00

Triniaeth Meicrosgraffinio'r Corff (Yn ôl pob rhan o'r corff)

Triniaeth diblisgo ysgafn ar y corff y gael gwared ar gelloedd y croen sydd wedi marw ac annog celloedd newydd i dyfu.

£15.00

Chwistrelliad Lliw Haul

Dewch i drin eich croen i gael lliw haul naturiol a golwg llyfn lliw haul Kissed by Mii’s sy’n hydradu’r croen, wedi’i gyfoethogi gan fwynhau’r môr a DHA organig.

£15.00

£15.00

Bydd opsiynau eraill ar gael yn fuan...cadwch lygad i weld ein triniaethau newydd!

Methu Dod o Hyd i'r Hyn Rydych Chi'n Chwilio Amdano?

Dyma Sut y Gallwch Chi Gysylltu

Ffoniwch

01978 267614

Dewch o hyd i ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol

I ble allwn ni fynd â chi rŵan?