Y Sba a Phecynnau
Dyma'ch cyfle i ddianc i fyd o ymlacio ac adfywio gyda'n cynigion sba moethus
Os ydych chi’n chwilio am le tawel rhag prysurdeb bywyd bob dydd neu ddathlu achlysur arbennig, mae ein sba yn addo taith fythgofiadwy i lesiant llwyr.
Ymgollwch yn llwyr yn ein cyfleusterau ystafelloedd thermol, lle mae therapïau dŵr a gwres yn cydweithio i gael gwared ar densiwn, dadwenwyno’r corff, a hyrwyddo ymlacio’n llwyr. O sawnas ac ystafelloedd stêm i bwll hydrotherapi ac ystafelloedd ymlacio, mae pob elfen wedi ei dylunio’n fanwl i ddeffro’r synhwyrau ac adfer cydbwysedd meddwl, corff, ac enaid.
Dewch i gael profiad sba gwerth chweil gyda’n pecynnau sba sydd wedi’u curadu’n ofalus, sydd wedi eu llunio i’ch pampro o’ch corryn i’ch sawdl. Mwynhewch gyfuniad braf o driniaethau tylino, triniaethau i’r wyneb, triniaethau i’r corff a rhagor, sydd wedi eu teilwra i’ch anghenion a’ch hoffterau unigryw chi.
Profwch y gorau o ran ymlacio ac adfywio yn ein sba. Trefnwch eich apwyntiad heddiw a dechreuwch ar daith at lesiant llwyr.
Amseroedd Agor
Dydd Llun
10am – 6pm
Dydd Mawrth
10am – 6pm
Dydd Mercher
10am – 6pm
Dydd Iau
11am – 8pm
Dydd Gwener
9am – 5pm
Dydd Sadwrn
9am – 2pm
Dydd Sul
AR GAU
Gwasanaeth
*Dewch â'ch tywel/gŵn eich hun i'n helpu ni i fod yn sba cynaliadwy
Therapydd Graddedig
Therapydd Proffesiynol
Pecynnau Sba
Pecyn Darganfod y Sba
Perffaith ar gyfer eich tro cyntaf yn y sba; tylino'r cefn a defnyddio'r ystafell thermol a'r cysurfa, defnyddio gŵn a dŵr ffrwyth am ddim
£30.00
£45.00
Pecyn Adfywio Llesiant
Adfywiwch eich synhwyrau gyda'n Pecyn Sba Adfywio Llesiant. Mwynhewch 2 awr o fynediad i'r sba, tylino'r cefn gyda cherrig poeth, triniaeth gyflym i'r wyneb, a thylino croen y pen i ymlacio. Adnewyddwch eich llesiant a theimlo fel newydd.
£40.00
£60.00
Pecyn Sba Harmoni Diguro
Ymlaciwch yn llwyr gyda'n Pecyn Sba Harmoni. Mwynhewch hyd at 2 awr yn yr ystafell thermol, triniaeth tylino, a thriniaeth foethus Pro 60 Dermalogica i'r wyneb. Dyma'r cyfle perffaith i chi brofi paradwys. Mae'n cynnwys defnyddio gŵn a sliperi, a dŵr ffrwyth am ddim.
£50.00
£85.00
Dewiswch Eich Moment Meddwlgarwch
Mae eich profiad yn cynnwys:
- 2 awr o ymlacio yn ein Hystafell Thermol heddychlon
- Triniaeth 75 munud wedi’i theilwra, gan ddewis 3 o’r canlynol:
Dewisiadau Triniaeth Feddwlgarwch:
- Tylino’r Pen yn y dull Indiaidd
- Tylino’r Cefn, Gwddf a’r Ysgwyddau
- Triniaeth Sydyn i’r Wyneb
- Triniaeth Foethus i’r Traed a’r Coesau
- Triniaeth Foethus i’r Cefn (glanweithio, tynnu amhureddau, digennu a lleithio’r cefn)
Crëwch eich cyfuniad perffaith i ymlacio a gadewch yn teimlo fel person newydd o’ch corryn i’ch sawdl.
£50.00
£95.00
Manion Ychwanegol
Beth am ychwanegu rhywbeth arbennig at eich diwrnod?
Gwydr o Prosecco
£6.00
Te Prynhawn Bach
Rhaid talu'n llawn adeg archebu. Mae angen rhybudd o 48 awr ar gyfer te prynhawn a brecinio.
£15.00
Te Prynhawn Traddodiadol
£22.50
Brecinio
£18.00
Cinio tri chwrs ym Mwyty Iâl
Pryd o fwyd 3 chwrs ym Mwyty Iâl gyda dewis o botel o gwrw, gwydraid o win y tŷ neu ddiod ysgafn, gyda the/coffi ar ôl cinio neu espresso Martini.
£21.00
Mae opsiynau bwyd eraill ar gael i’w harchebu gan ddefnyddio ap Arlwyo Sba Iâl (fel stwnsh avocado ac wyau, neu ein pasta cartref a danteithion o’r becws ac ati)
Defnyddio'r Sba
2 awr o ddefnyddio'r ystafell thermol a'r cysurfa, defnyddio gŵn a sliperi
Hanner Diwrnod (Bore)
Dydd Llun - Dydd Sadwrn
10:00 - 12:00
£25.00
Hanner Diwrnod (Prynhawn)
Dydd Llun - Dydd Sadwrn
14:00 - 16:00
£25.00
Noson Thermol
Nos Iau
17:00-19:00 / 18:00 - 20:00
£20.00
Gallwch chi ychwanegu triniaethau a gwasanaethau gwallt at eich apwyntiad i ddefnyddio'r sba. Mae cost ychwanegol ar gyfer y rhain, ac mae'n dibynnu ar argaeledd.
Graddedig
Pro
Aelodaeth
Aelodaeth Llesiant
- 1 x mynediad 60 munud y mis i gyfleusterau sba (sauna, ystafell stêm, lolfa ymlacio, cuddfan)
- 1 tylino x 30 munud gyda graddedig y mis
- Darperir tywel a sarong
Ar gael dydd Iau 1pm - 4pm
£15.00 y mis
Ar gael bob dydd Iau 1pm - 4pm
£35.00 y mis
Ar gael dydd Llun - dydd Gwener (oni bai am ddydd Sadwrn)
Aelodaeth Thermol
Mwynhewch y cyfle i ddefnyddio ein Hystafell Sba Thermol yn rheolaidd, ymlacio’n fwy aml, a gwneud hunanofal yn arferiad misol.
Dewiswch hyd yr aelodaeth sy’n addas i’ch ffordd chi o fyw:
- Aelodaeth 3, 6, 9 neu 12 mis
Mae pob aelodaeth yn cynnwys:
- Defnyddio’r Ystafell Thermol am 1 awr
- 4 ymweliad y mis
- Un tocyn ymwelydd am ddim pob chwarter
£35 y mis, wedi'i dalu'n llawn ymlaen llaw
Opsiynau talu ar gael ar gyfer aelodaeth - 6 mis ymlaen llaw neu 12 mis ymlaen llaw
Ein creadigaethau a'n cynnyrch
Ble allwn ni fynd â chi rŵan?