Triniaethau i'r Wyneb

Dyma le i'r enaid gael llonydd, lle mae gofal croen yn cyd-fynd ag ymlacio

Wedi’u dylunio i fynd i’r afael ag amrywiaeth o bryderon gofal croen, mae ein triniaethau i’r wyneb wedi’u teilwra i weddu pob math o groen. Mae pob triniaeth yn daith gyfannol, wedi’i hanelu at ddychwelyd cydbwysedd, hydradiad, a disgleirdeb i’ch pryd a gwedd.

Dewch i brofi gwir ymlaciad gyda’n prisiau hyfforddai, lle mae darpar therapyddion ar y llwybr i ardystiad Lefel 2 yn cynnig eu dwylo medrus a’u calonnau awyddus i ddarparu dihangfa dawel. Gadewch iddyn nhw eich pampro chi wrth iddyn nhw fireinio eu crefft o dan arweiniad arbenigwyr.

I’r rhai sy’n chwilio am brofiad hyd yn oed yn well, mae ein graddedigion sy’n gweithio tuag at ardystiad Lefel 3 yn dod â lefel uwch o arbenigedd a gofal. Gallwch chi fwynhau eu hyfedredd wrth iddyn nhw drin eich wyneb gyda thechnegau uwch gan ddarparu profiad gwerth chweil i chi.

Wrth ddewis ein prisiau Arbenigwyr, byddwch chi’n cael profiad moethus ac yn cael eich trin gan therapyddion cwbl gymwys. Mae ganddyn nhw flynyddoedd o brofiad a llwyth o wybodaeth, maen nhw’n darparu canlyniadau heb eu hail, gan wneud i chi wenu o glust i glust, a theimlo’n ffres ac fel newydd.

Amseroedd Agor

Dydd Llun
10am – 6pm

Dydd Mawrth
10am – 6pm

Dydd Mercher
10am – 6pm

Dydd Iau
11am – 8pm

Dydd Gwener
9am – 5pm

Dydd Sadwrn
9am – 2pm

Dydd Sul
AR GAU

Amseroedd Agor

Dydd Llun
10am – 6pm

Dydd Mawrth
10am – 6pm

Dydd Mercher
10am – 6pm

Dydd Iau
11am – 8pm

Dydd Gwener
9am – 5pm

Dydd Sadwrn
9am – 2pm

Dydd Sul
AR GAU

RHESTR BRISIAU

Mae ein prisiau yn seiliedig ar brofiad a lefel y therapydd. Mae therapyddion dan hyfforddiant yn gweithio tuag at eu cymhwyster Lefel 2. Mae ein Therapyddion Graddedig yn gymwys at Lefel 2 ac yn gweithio tuag at eu cymhwyster uwch Lefel 3.

Gwasanaeth

Therapydd dan Hyfforddiant

Therapydd Graddedig

Therapydd Proffesiynol

DERMALOGICA PRO SKIN

Triniaeth 'Dermalogica Pro 30' (30 munud)

Triniaeth 30 munud wedi’i theilwra i fynd i'r afael â phryderon penodol. Triniaeth i’r wyneb sydd orau os nad oes gennych chi lawer o amser.

£15.00

£20.00

Triniaeth 'Dermalogica Pro 60' (60 munud)

Triniaeth 60 munud wedi’i theilwra sy’n mynd a chi ar daith i’ch croen iachaf. Dyma brofiad sy’n mynd i’r afael â sawl pryder sydd gennych chi am eich croen.

£20.00

£22.00

£35.00

Triniaeth 'Dermalogica Pro Clear'

Triniaeth 60 munud i’r wyneb wedi’i theilwra i glirio a lleddfu croen sy’n dioddef o blorod yn aml.

£40.00

Triniaeth 'Dermalogica Pro Calm'

Triniaeth 60 munud i’r wyneb wedi’i theilwra i esmwytho a chryfhau croen sensitif.

£40.00

Triniaeth 'Dermalogica Pro Bright'

Triniaeth 60 munud i’r wyneb wedi’i theilwra i bylu smotiau tywyll a datgelu croen mwy gloyw gan fynd i’r afael â phroblemau pigmentiad.

£40.00

Triniaeth 'Dermalogica Pro Firm'

Triniaeth 60 munud i’r wyneb wedi'i theilwra sy’n defnyddio technegau cryfhau, gan gyfuno cynhwysion actif sy’n ail-gyflwyno gwead ac yn ail-gyflenwi i gael croen sy’n edrych yn dynnach.

£40.00

Triniaeth 'ELEMIS: TOUCH - SKIN SOLUTIONS'

Triniaeth 'Elemis Skin Specifics'

Triniaeth 50 munud i’r wyneb wedi’i theilwra i’ch math o groen chi. Bydd eich therapydd yn defnyddio cynnyrch a fydd yn mynd i’r afael â’ch pryderon chi am eich croen. Mae defnyddio cynnyrch Elemis ac Elemis Signature yn gadael y croen yn esmwyth a gloyw.

£35.00

Triniaeth 'Elemis Super Food Pro Radiance'

Triniaeth foethus 60 munud i’r wyneb. Dyma driniaeth i roi egni a chael gwared ar docsinau o groen sydd dan straen, ac wedi pylu, gyda hwb gan gynhwysion llawn lles o gynnyrch Elemis. Mae’n gadael y croen yn fwy plwmp a gloyw.

£25.00

Methu Dod o Hyd i'r Hyn Rydych Chi'n Chwilio Amdano?

Dyma Sut y Gallwch Chi Gysylltu

Ffoniwch

01978 267614

Dewch o hyd i ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol

I ble allwn ni fynd â chi rŵan?